Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd

 

Menywod, Trais a'r Cymunedau Ffydd

 

Ystafell Gynadledda 21, Tŷ Hywel, dydd Mawrth 5 Tachwedd

rhwng 12.15 a 13.15

 

 

Yn bresennol

 

  1. Anna Buchanan, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  2. Anna Mihangel, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  3. Andrew RT Davies Aelod Cynulliad dros Canol De Cymru
  4. Carol Wardman, Yr Eglwys yng Nghymru
  5. Catherine Evans, Staff Cymorth Darren Millar AC
  6. Cecilia Taylor-Camara, Ymddiriedolaeth Gatholig Cymru a Lloegr
  7. Claire Stowell, Staff Cymorth Rebecca Evans AC
  8. Darren Millar, Aelod Cynulliad dros Orllewin Clwyd, Cadeirydd (yn cadeirio hanner cyntaf y cyfarfod)
  9. Elfed Godding, Cynghrair Efengylaidd Cymru  
  10. Emeline Makin, Cynghrair Efengylaidd Cymru  
  11. Fatima Ali, Oxfam Cymru
  12. Gethin Russell-Jones, Eglwys y Bedyddwyr, Rhiwbeina  
  13. Jan Pickles OBE, NSPCC
  14. Jim Stewart, Cynghrair Efengylaidd Cymru, Ysgrifennydd
  15. John Partington, Cynulliadau Duw
  16. Josephine Wakeling, Restored – Ending Violence Against Women (Areithydd)
  17. Kate Carr, NSPCC
  18. Mari MacNeill, Cymorth Cristnogol Cymru
  19. Martyn Jones, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  20. Mohammad Asghar Aelod Cynulliad dros Dwyrain De Cymru
  21. Peggy Jackson, Yr Eglwys yng Nghymru
  22. Rebecca Evans, Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Is-gadeirydd (yn cadeirio'r drafodaeth)
  23. Rhiannon Hedge, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr
  24. Russell George, Aelod Cynulliad dros Sir Drefaldwyn
  25. Sally Thomas, Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig  
  26. Shirley Sleight, Synagog Ddiwygiedig Caerdydd
  27. Stanley Soffa, Cyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru
  28. Tim Rowlands, Staff Cymorth Darren Millar AC
  29. Tina Reece, Cymorth i Fenywod Cymru

 

 

Nid yw'r Grŵp Trawsbleidiol hwn yn gwahaniaethu rhwng aelodau'r grŵp a gwesteion allanol, gan fod y lleoedd yn y cyfarfodydd yn cael eu llenwi yn ôl polisi y cyntaf i'r felin.

 

 

 

 

 

Cofnodion:

 

  1. Estynnodd Darren Millar AC groeso i bawb, nododd yr ymddiheuriadau gan yr Aelodau Cynulliad, a gofynnodd i bawb gyflwyno'u hunain yn gryno.

 

  1. Nododd y Cadeirydd nad oedd unrhyw faterion yn codi o'r cyfarfod blaenorol.

 

  1. Ail-etholwyd yr unigolion canlynol i'w swyddi, wedi iddynt gael eu henwebu a'u heilio yn y cyfarfod:

 

  1. Darren Millar AC – Cadeirydd
  2. Rebecca Evans AC – Is-gadeirydd
  3. Jim Stewart, Cynghrair Efengylaidd Cymru, Ysgrifennydd

 

  1. Cyflwynwyd Josephine Wakeling o'r elusen Gristnogol Restored – Ending Violence Against Women, a rhoddodd gyflwyniad ynghylch Menywod, Trais a'r Cymunedau Ffydd.

 

  1. Dilynwyd y cyflwyniad gan drafodaeth a sesiwn hawl i holi, a chadeiriwyd y rhan hon o'r cyfarfod gan Rebecca Evans AC.

 

  1. Y camau gweithredu a ddeilliodd o'r cyfarfod oedd:

 

  1. Llunio rhestr o adnoddau cyfeirio, a'u rhannu â'r aelodau.
  2. Canfod a dosbarthu unrhyw ganllawiau Cymru gyfan ar bolisïau/arferion ar gyfer diogelu oedolion agored i niwed y gellir eu defnyddio mewn cyd-destunau ffydd.
  3. Ysgrifennu at y Gweinidog yn datgan bwriad y grŵp i gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, gan gynnwys enghreifftiau o arferion da o wahanol gymunedau ffydd.

 

  1. Daeth Rebecca Evans AC â'r cyfarfod i ben, gan nodi y byddai manylion y cyfarfod nesaf yn cael eu dosbarthu dros yr e-bost gan Jim Stewart.